'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr'
Golwg ar Waith Menna Elfyn
Price for Eshop: 281 Kč (€ 11.2)
VAT 0% included
New
E-book delivered electronically online
E-Book information
Annotation
Cyfrol o feirniadaeth lenyddol arbrofol yw hon sy'n cynnig deongliadau amrywiol o waith y bard Menna Elfyn, ac yn rhoi cip inni ar ein hymwneud a llenyddiaeth a'n harferion darllen. Eir ati i gynnig dehongliad ffres o'r gwaith gan arbrofi am y tro cyntaf yn y Gymraeg a dull beirniadaeth epistolaidd, sef cyfres o lythyrau ffuglennol. Dyma hefyd yr astudiaeth estynedig gyntaf o farddoniaeth Menna Elfyn: rhoddir sylw i waith y bardd yn benodol, ond edrychir hefyd ar faterion cyfoes fel cyfieithu, perfformio a marchnata llenyddiaeth yn y Gymru sydd ohoni. Eir ati i herio arferion academaidd trwy droedio'r ffin rhwng 'ffaith' a 'ffuglen' er mwyn creu beirniadaeth aml-leisiol a darllenadwy sy'n adlewyrchu natur gymhleth ac amlweddog y broses ddarllen.
Ask question
You can ask us about this book and we'll send an answer to your e-mail.